Wednesday 21 September 2011

Caneuon.




Dw i ddim yn gwybod pam, ond ers y penwythnos dwethaf, roedd modd gen i i glywed i ganeuon traddodiadol Cymraeg. Efallai glywes i gân yn ystod y penwythnos neu rhywbeth. Felly, ysgrifennais i lawr rhai ohonynt. Rwy wedi gwrando i'r geiriau hefyd, a na gallai meddwl am air i'u disgrifio. Hudol? Nerthol? Gwladgarol? Efallai dim o'r geiriau, neu effallai'r gyd. Does gen i ddim syniad... ond beth sy'n sicr, mae yna rhywbeth yn eu geiriau.

Mae gen i restr yma o ganeuon, a fyddai ddangos i chi rhai ohonynt. Gwasgwch enw’r gân am eiriau Saesneg. Mae flin gen i hefyd am rai o’r fideos... dim byd i wneud â fi! Ond mae'r lluniau yn perthynogu i mi. (For the non-Welsh speakers reading this, click on the song titles for the English translations, and I’m sorry for the quality of some of these videos, but it has nothing to do with me. Just listen... Also, the photos were taken by myself.)






(video)

Holl amrantau'r sêr ddywedant
ar hyd y nos.
Dyma'r ffordd i fro gogoniant
ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch
i arddangos gwir brydferthwch
teulu'r nefoedd mewn tawelwch
ar hyd y nos.

O mor siriol, gwena seren
ar hyd y nos,
i oleuo'i chwaer ddaearen
ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
ond i harddu dyn a'i hwyrddydd,
rhown ein golau gwan da'n gilydd
ar hyd y nos.

------------




(video)

Ti yw'r unig wlad i mi, O fy Ngwalia,
ti sy'n lloni nghalon i, ti yw ngwynfa.
O Gymru, O Gymru, rhof i ti fy mywyd.
O Walia, o Walia, ti ydyw fy ngwynfyd,
fy Ngwalia, fy heulwen wyt ti.

Pan ddaw gofid ambell dro, daw i'm lloni
lun o geinder, bryn a bro, gwlad fy ngeni.
O Gymru, O Gymru, rhof i ti fy mywyd.
O Walia, o Walia, ti ydyw fy ngwynfyd,
fy Ngwalia, fy heulwen wyt ti.

O fy Ngwalia rhof i ti gân yn llawen,
cân o fawl amdanat ti, ti yw'r heulwen.
O Gymru, O Gymru, rhof i ti fy mywyd.
O Walia, o Walia, ti ydyw fy ngwynfyd,
fy Ngwalia, fy heulwen wyt ti.

------------




(video)

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
aur y byd na'i berlau mân:
gofyn wyf am galon hapus,
calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,
tecach yw na'r lili dlos:
dim ond calon lân all ganu -
canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
chwim adenydd iddo sydd,
golud calon lân, rinweddol,
yn dwyn bythol elw fydd.

Hwyr a bore fy nymuniad
esgyn ar adenydd cân
ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
roddi i mi galon lân.

------------




(video)

Paham mae dicter, O Myfanwy,
yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus,
fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?

Pa beth a wneuthum, O Myfanwy,
i haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy,
â thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
heb gael dy galon gyda hi.

Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
i ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
â wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
a dyro'th law, Myfanwy dirion,
i ddim ond dweud y gair "ffarwél".

------------




(video)

Mi glywaf dyner lais
yn galw arnaf fi,
i ddod a golchi meiau gyd
yn afon Calfari.

Arglwydd, dyma fi
ar dy alwad di,
canna f'enaid yn y gwaed
a gaed ar Galfari.

Yr Iesu sy'n fy ngwadd,
i dderbyn gyda'i saint.
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
a phob rhyw nefol fraint.

Yr Iesu sy'n cryfhau,
o'm mewn Ei waith trwy ras;
mae'n rhoddi nerth i'm henaid gwan,
i faeddu mhechod cas.

Gogoniant byth am drefn,
y cymod a'r glanhad;
derbyniaf Iesu fel yr wyf,
a chanaf am y gwaed.

No comments:

Post a Comment